Croeso i'n Gwefan
Lleolir Rhodnant mewn llecyn tawel ar gyrion Penrhyn Llŷn, ac eto mae o fewn tafliad carreg i draethau trawiadol ac amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored.
Ymlaciwch yn yr ardd a mwynhewch y golygfeydd o’r môr a’r mynydd neu ewch am dro hamddenol hyd y ffyrdd gwledig. Ac yng nghanol y llonyddwch hawdd fydd edmygu harddwch yr adar amrywiol fydd yn sicr o alw heibio.
Os am egwyl ddioglyd mwynhewch eich hoff raglenni ar y teledu clyfar yn y lolfa gyfforddus, neu ewch allan i fwynhau gwres yr haul a gwydriad o win ar y decing. Ac i’r rhai ohonoch sydd am goginio gallwch ddarparu’r wledd ar y stôf drydan neu yn y popty ping, cyn gadael i’r peiriant golchi llestri gymryd drosodd.Neu ar nosweithiau hyfryd o haf beth am ddarparu prydau blasus ar y barbeciw?